SL(6)457 – Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”) yn gosod y safonau ansawdd y bydd gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yn cael eu rheoleiddio a’u harolygu yn eu herbyn o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”). Bydd y Rheoliadau yn disodli’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl a gafodd eu gwneud o dan adran 23(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig mewn perthynas â:

-      datganiadau blynyddol;

-      gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â chydymffurfedd, ansawdd, ac adolygu’r gwasanaeth, a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli'n effeithiol;

-      gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â llywodraethu, addasrwydd y gwasanaeth, gwybodaeth am y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddi staff a diogelu;

-      hysbysiad os bydd darparwr gwasanaeth yn marw neu wedi ei ddatod; a

-      throseddau a hysbysiadau cosb.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y naw pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Defnyddir y term “gofal a chymorth” ym mhob rhan o’r Rheoliadau. Mae Adran 4 o Ddeddf 2016 yn rhoi ystyron penodol i “gofal”, “cymorth” a “gofal a chymorth”, ond nid yw’r Rheoliadau yn rhoi ystyr penodol i’r term. Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys i’r Rheoliadau hyn felly nid yw termau a ddiffinnir yn Neddf 2016 yn dwyn yr un ystyr yn y Rheoliadau. Gofynnir am eglurhad ynghylch a fwriedir i’r term “gofal a chymorth” gael yr un ystyr ag yn Neddf 2016, ac os felly, pam nad yw hyn wedi’i nodi yn y Rheoliadau.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae’r rheoliadau’n defnyddio’r ymadrodd “contract ar gyfer gwasanaethau” yn rheoliad 1 a rheoliad 31 ond nid yw’r term hwn wedi’i ddiffinio. Byddai’n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r term hwn yn ei gynnwys a sut y gellir ei wahaniaethu oddi wrth “gontract cyflogaeth” a ddefnyddir yn rheoliad 30 a rheoliad 31 ac sydd hefyd heb ei ddiffinio.

3.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 1(3) yn diffinio tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) fel y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 a pharagraff 3 o Atodlen 1. Mae'r geiriau “y dystysgrif” yn dynodi tystysgrif sengl ond mae paragraff 2 a pharagraff 3 yn cyfeirio at dystysgrifau gwahanol. Nid yw'n glir a yw'r ddwy dystysgrif yn dod o dan y diffiniad, ac os felly dylid defnyddio'r gair lluosog, neu a ddylid diffinio'r tystysgrifau ar wahân.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 1(3), yn y diffiniad o “unigolyn” (“individual”), defnyddiwyd yr ymadrodd “oni noda’r cyd-destun yn wahanol fel arall”. Fodd bynnag, mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru, sef Drafftio deddfau i Gymru, paragraff 4.8(5), yn nodi nad yw, yn gyffredinol, yn ddefnyddiol i’r darllenydd os defnyddir geiriad tebyg, ac y dylid ei egluro ble mae’r diffiniad yn gymwys neu’n anghymwys. Byddai rhagor o esboniad o gymorth felly yn hyn o beth.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 1(3), diffinnir “canlyniadau personol” ar gyfer plentyn fel y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu’r canlyniadau y mae unrhyw bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn. Mae'n bosibl na fyddai dymuniadau'r plentyn a/neu'r un neu fwy o bobl â chyfrifoldeb rhiant amdano yr un peth, felly byddai o gymorth i gael eglurhad ynghylch sut y byddai canlyniadau personol y plentyn yn cael eu pennu mewn amgylchiadau o'r fath.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 47 yn ymdrin â chyflenwadau, ond nid yw'r gair hwn wedi'i ddiffinio ac nid oes dim rhagor o wybodaeth am beth mae “cyflenwadau” yn ei gynnwys. Byddai o gymorth i’r darllenydd gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae “cyflenwadau” yn ei gynnwys.

7.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 79(3)(b) yn darparu ar gyfer addasiad i adran 21(2) o Ddeddf 2016. Nid yw geiriad rhagarweiniol yr addasiad yn rheoliad 79(3)(b) yn gwneud synnwyr. Mae’n ymddangos ei fod yn bwriadu dweud “fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl (a)”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

Yn rheoliad 82(a), yn y testun Cymraeg, mae’r gwelliant yn anghywir oherwydd ei fod yn methu â nodi’n gywir destun y diffiniad o’r “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.

Yn y testun Cymraeg, mae’r gwelliant yn nodi y dylid mewnosod y diffiniad newydd o’r “Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig” yn rheoliad 2 ar ôl “ystyr” “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;”

Fodd bynnag, dylai’r geiriau Saesneg mewn cromfachau ac italig nodi “(“the Fostering Services Regulations”)” fel y’u ceir yn nhestun Cymraeg presennol y diffiniad o “the Fostering Services Regulations” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2019, yn hytrach na “(“y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu”)”.

Yn ogystal, byddai’n fwy arferol disgrifio lleoliad y gwelliant drwy ddatgan, “ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” mewnosoder….” yn hytrach na dyfynnu testun cyfan y diffiniad hwnnw.

9.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae paragraff 17 a pharagraff 35 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i wneud hysbysiad ynghylch “unrhyw niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam”. Ni ddarperir unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â chategoreiddio niwed pwyso na beth sy'n gyfystyr â niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam. Byddai gwybodaeth o'r fath yn helpu'r darllenydd i ddeall y gofynion o ran hysbysiadau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Chwefror 2024